Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 21 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn edifar am y penderfyniad i godi’r trothwy sydd ei angen i sbarduno refferendwm? Oherwydd rydym bellach wedi gweld bod y defnydd o feiri etholedig wedi adfywio llywodraeth leol ar hyd a lled y DU ac yn wir, dyna sydd wrth wraidd datganoli yn Lloegr. Mae llawer o bobl yn teimlo y dylid cyflwyno’r cwestiynau hyn i’r etholwyr o leiaf, heb amodau afresymol o uchel i sbarduno’r broses.