Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 21 Medi 2016.
Rwy’n ei chael hi ychydig yn rhyfedd fod yna ddau Aelod yma yn crochlefain am haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol. Cawsom ymgais yn ddiweddar i gyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol yng Nghaerdydd gan gynghorydd Llafur, Ashley Govier. Bu farw’r syniad i raddau helaeth oherwydd diffyg cefnogaeth boblogaidd. Felly, byddwn yn croesawu’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud hyd yma. Pe bai’n gallu rhoi sicrwydd pellach i mi, gyda newid deddfwriaethol pellach yn y Cynulliad hwn, na fydd gennym sefyllfa lle bydd ardal yn cael ei gorfodi i gael maer a etholir yn uniongyrchol pan na fydd yr ardal honno yn dymuno hynny o bosibl.