<p>Meiri Etholedig</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:33, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae’n bwysig fy mod yn gwneud fy safbwynt yn glir. Rwyf o blaid yr hawl i awdurdodau lleol a phoblogaethau lleol ddewis eu strwythur gwleidyddol eu hunain. Mae hynny’n golygu bod y dewis ar gael i’r awdurdodau a’r poblogaethau hynny lle maent yn dewis cefnogi maer lleol. Lle nad ydynt yn dewis cefnogi hynny, i ateb cwestiwn yr Aelod, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau o gwbl i’w orfodi arnynt.