Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Byddwn yn parhau i gyllido llywodraeth leol drwy gyfuniad o’r setliadau blynyddol a grantiau penodol. Mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn meddu ar bwerau annibynnol i godi refeniw a chyfalaf i ariannu eu gweithgareddau.