Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau caffael i awdurdodau lleol ar gyfer contractau rheoli gwastraff o fewn y rhaglen seilwaith gwastraff trefol. Mae cyngor ynglŷn â chaffael gwasanaethau casglu gwastraff ar gyfer awdurdodau lleol ar gael hefyd mewn dogfennau polisi megis cynllun y sector trefol a’r glasbrint casgliadau.