1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu a yw Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ai peidio i awdurdodau lleol ynghylch caffael contractau rheoli gwastraff? OAQ(5)0023(FLG)
Diolch i’r Aelod am hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau caffael i awdurdodau lleol ar gyfer contractau rheoli gwastraff o fewn y rhaglen seilwaith gwastraff trefol. Mae cyngor ynglŷn â chaffael gwasanaethau casglu gwastraff ar gyfer awdurdodau lleol ar gael hefyd mewn dogfennau polisi megis cynllun y sector trefol a’r glasbrint casgliadau.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno’n garedig i edrych ar y mater y tynnais ei sylw ato ddoe yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â phenderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wahardd y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru, Potter Group, rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff am nad oes ganddo drosiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. Deallaf fod hyn yn unol â rheoliad 58 o’r rheoliadau contract cyhoeddus 2015, ond rwy’n mawr obeithio y byddech yn cytuno na all fod yn iawn i reoliad atal cwmnïau mawr o Gymru rhag gwneud cais am y contractau hyn yng Nghymru. Felly, o ystyried ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i wella polisi caffael ddoe, a wnewch chi hefyd ymrwymo i edrych ar y mater hwn i sicrhau y gall cwmnïau mawr o Gymru wneud cais am gontractau sector cyhoeddus mawr yng Nghymru?
Wel, diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn y Siambr ddoe pan soniodd yr Aelod wrth y Prif Weinidog am hyn, a gwn ei fod wedi ymrwymo i ysgrifennu ato gyda manylion, a byddaf yn sicr yn ymrwymo i rannu unrhyw ymateb i’r amgylchiadau penodol y mae’n eu hamlinellu. Ers i’r mater gael sylw ddoe, rwyf wedi gwneud rhai ymholiadau cychwynnol gyda fy swyddogion ar y mater hwn. Maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cyfarfod â’r cwmni dan sylw ar 15 Medi, yr wythnos diwethaf, ac er iddynt gael trafodaeth ddefnyddiol yno am fuddsoddiadau arfaethedig mewn dau safle bach yng nghanolbarth Cymru sy’n troi gwastraff yn ynni, ni chrybwyllwyd contract Pen-y-bont ar Ogwr yn y cyfarfod hwnnw, ac felly nid aethom ar drywydd y mater. Ond rwy’n sicr yn ymrwymo i edrych ymhellach ar gynnwys ei drafodaeth gyda’r Prif Weinidog ddoe.