Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno’n garedig i edrych ar y mater y tynnais ei sylw ato ddoe yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â phenderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wahardd y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru, Potter Group, rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff am nad oes ganddo drosiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. Deallaf fod hyn yn unol â rheoliad 58 o’r rheoliadau contract cyhoeddus 2015, ond rwy’n mawr obeithio y byddech yn cytuno na all fod yn iawn i reoliad atal cwmnïau mawr o Gymru rhag gwneud cais am y contractau hyn yng Nghymru. Felly, o ystyried ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i wella polisi caffael ddoe, a wnewch chi hefyd ymrwymo i edrych ar y mater hwn i sicrhau y gall cwmnïau mawr o Gymru wneud cais am gontractau sector cyhoeddus mawr yng Nghymru?