<p>Caffael Contractau Rheoli Gwastraff </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn y Siambr ddoe pan soniodd yr Aelod wrth y Prif Weinidog am hyn, a gwn ei fod wedi ymrwymo i ysgrifennu ato gyda manylion, a byddaf yn sicr yn ymrwymo i rannu unrhyw ymateb i’r amgylchiadau penodol y mae’n eu hamlinellu. Ers i’r mater gael sylw ddoe, rwyf wedi gwneud rhai ymholiadau cychwynnol gyda fy swyddogion ar y mater hwn. Maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cyfarfod â’r cwmni dan sylw ar 15 Medi, yr wythnos diwethaf, ac er iddynt gael trafodaeth ddefnyddiol yno am fuddsoddiadau arfaethedig mewn dau safle bach yng nghanolbarth Cymru sy’n troi gwastraff yn ynni, ni chrybwyllwyd contract Pen-y-bont ar Ogwr yn y cyfarfod hwnnw, ac felly nid aethom ar drywydd y mater. Ond rwy’n sicr yn ymrwymo i edrych ymhellach ar gynnwys ei drafodaeth gyda’r Prif Weinidog ddoe.