Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig.
A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â mater y Gymraeg fel ail iaith yn ôl i’r Siambr mor gyflym y tymor hwn? Mae gwelliant y Llywodraeth yn dangos bod yna gyfyngiadau, a gawn ni ddweud, ar eich perthynas glyd, wedi’r cyfan. Ond, gan ddod â fe nôl mor glou, mae’n dangos y gall rhai pethau gael eu gwneud yn gyflym, ac rydym yn cefnogi’n llwyr y pwynt bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu amser ers adroddiad Sioned Davies. Am y rheswm hwnnw, byddai’n well gennym ni gefnogi’r cynnig heb welliant y Llywodraeth, os yn bosib, oherwydd ein bod yma i ddal y Llywodraeth i gyfrif ac atgoffa pobl Cymru bod pobl ifanc yn dal i gyrraedd a gadael ein system addysg heb fantais y gall y system ei rhoi iddynt, sef sgiliau iaith Gymraeg gwell.
Hefyd, byddai dileu pwynt 4 y cynnig yn gwrthod wynebu her ganolog, sef sgiliau’r gweithlu. Mae’n amhosib dweud unrhyw beth ystyrlon am ansawdd cymwysterau, neu symud ymlaen o’r gwahaniaeth rhwng iaith gyntaf ac ail iaith, oni bai eich bod yn wynebu’r ffaith bod rhaid i athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill gyflawni hyn, ac nid yw’r capasiti yno eto i wneud hynny.
Hoffwn ganolbwyntio ar y materion yma: ansawdd a gallu, a pham rydym ni wedi cyflwyno ein gwelliannau fel y maent mewn dadl am gymwysterau. Mae cyflwyno arholiadau yn 2020 neu’r flwyddyn wedyn yn golygu y byddai unrhyw un sy’n dechrau blwyddyn 7 eleni neu flwyddyn nesaf yn mynd i sefyll yr arholiadau hynny. Bydden nhw wedi cael y profiad o’r system gynradd cyfrwng Saesneg fel y mae nawr. Er gwaethaf y ffaith bod y Gymraeg wedi bod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer pob oedran ers 1999, mae’n deg dweud y bydd llawer o blant yn cyrraedd drws eu hysgol uwchradd gyda chyn lleied o gyfarparu o ran sgiliau, dealltwriaeth a hyder i ddechrau gwersi Cymraeg ag y byddent â gwersi Ffrangeg. I rai, bydden nhw’n ei hystyried fel gwers arall am ieithoedd modern yn hytrach na siawns i ddatblygu rhan greiddiol o’u hunaniaeth a’u sgiliau bob dydd.
Felly, fy nghwestiwn ar ran y garfan hon o bobl ifanc yw: sut bydd y cwricwlwm newydd yn eu helpu nhw i gyflawni safon uwch yn y tri agwedd yna—uwch na’r rhai sydd wedi mynd o’r blaen? Ni fydd eu profiad o ysgol gynradd yn wahanol i’r rhai a aeth o’u blaen, ac mae’r profiad hwnnw, dawn unigol pobl ifanc a’r newid yn nisgwyliadau athrawon, rwy’n meddwl, yn ei gwneud yn afrealistig i ddisgwyl i’r garfan hon o blant sefyll yr un math o arholiad â’u cyfoedion sydd wedi dod i fyny drwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na all cynnwys y cwrs ysgol uwchradd fod yn fwy heriol ac yn reddfol. Ond nid oes unrhyw bwynt cael cwrs mwy heriol ac uno i mewn i gontinwwm oni bai bod plant yn cyrraedd yr ysgolion uwchradd ar ôl llawer mwy o gyswllt â’r Gymraeg fel rhan annatod o’u profiad ysgol gynradd. Nid wyf am i ddisgyblion fethu arholiadau Cymraeg yn 2020 a 2021 oherwydd bod eu bywyd cynnar yn yr ysgol wedi methu â’u paratoi. Dyna pam na ddylai pwyntiau 4(b) ac 4(c) gael eu dileu o’r cynnig hwn—maen nhw’n berthnasol i’r sector cynradd hefyd.
Fy unig broblem gyda’r cynnig hwn yw yr amserlen. Os byddai newid sylfaenol i le’r Gymraeg yn ein hysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflawni heddiw, ni fyddai’r plant hynny yn cymryd TGAU tan 2027. Nhw yw’r plant sydd gyda’r siawns o wneud yr un arholiad â’u cyfoedion o ysgolion Cymraeg.
Felly, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r arholiad yn y cyfamser i amddiffyn ei enw da a’r safon a nifer y bobl sy’n ei basio? A ydym yn ystyried rhywbeth tebyg i TGAU gwyddoniaeth, gyda chwricwlwm ac arholiadau gwahaniaethol efallai? Nid wyf yn gwybod beth yw’r cynlluniau ar hyn. Ond, wrth gwrs, nid yw hwn yn nod hirdymor. Diben ein gwelliannau heddiw yw atgyfnerthu’r neges hon: i normaleiddio’r Gymraeg i bawb, i greu system addysg sy’n gallu gwneud hyn, ac arholiadau sy’n adlewyrchu hyn, mae’n rhaid i ni ddechrau cyn i blant fynd i’r ysgol. Rhaid cynnwys y gweithlu hwnnw dan bwyntiau 4(b) a 4(c).
Dim ond pwynt atgoffa oedd gwelliant 4. Rwy’n dod i ben yn y fan hon. Mae’r Gymraeg yn sgil yn y gweithle, yn sgil cyfathrebu ac yn rhan o’n ffordd o fyw. Nid yw’n dod i ben pan fo drws yr ysgol yn cau. Diolch yn fawr.