Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i chi am ganiatáu i mi gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae’r iaith Gymraeg yn fater pwysig. Tybed a fyddai wedi bod yn well treulio ychydig mwy o amser ar y mater hwn na’r hanner awr a ddyrannwyd. Rydym yn trafod gadael yr UE eto—mae fel ‘groundhog day’.
Cytunaf â’r egwyddorion sy’n sail i’r cynnig hwn, ond teimlaf efallai na fydd yn llwyddo i gyflawni ei fwriad yn llawn. Felly, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, er fy mod yn cefnogi tri phwynt cyntaf cynnig Plaid Cymru. Rwyf wedi darllen y llythyr a dderbyniodd yr holl Aelodau gan Cymwysterau Cymru yn ofalus, ac rwyf hefyd wedi dilyn y dadleuon a gyflwynwyd heddiw gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn eu llythyr, dywed Cymwysterau Cymru:
‘wrth gyflwyno newidiadau sylweddol i gymwysterau rhaid sicrhau amser digonol i athrawon a dysgwyr i baratoi; gall newid cymwysterau yn frysiog greu anawsterau i athrawon ac i ddysgwyr a pheryglu llwyddiant unrhyw gymhwyster newydd.’
Nid wyf yn credu eu bod yn awgrymu 800 mlynedd, fodd bynnag, ond credaf ei fod yn adlewyrchu—os wyf wedi deall yn iawn—rhai o’r gwirioneddau a nodwyd gan Suzy Davies.
Yn fy ngalwedigaeth flaenorol, roeddwn yn cynllunio, dilysu, monitro a darparu cymwysterau. Yn fy marn i, ar sail y profiad hwnnw, yw mai’r allwedd i lwyddiant yw gosod y dysgwr yn ganolog i’r rhaglen rydych yn ei chreu; beth yw anghenion y dysgwyr, beth yw eu cymhellion, beth yw eu gobeithion ar gyfer y dyfodol? Teimlaf mai dyhead dros ein hiaith, ac nid o reidrwydd dros ein dysgwyr, sydd wrth wraidd pwynt (a) yn y cynnig. Mae’n ddyhead da sydd hefyd yn codi cwestiwn gwleidyddol: pam nad ydym wedi teithio’n bellach na lle’r ydym heddiw? Mae’n gwestiwn rhesymol i’w ofyn, a dylid ei ofyn i’r Gweinidog, ac yn wir, dylai’r Gweinidog ei ateb, ond nid yw’n gwestiwn sydd o gymorth i’r dysgwyr rydym eisiau eu cefnogi, yn fy marn i. Yn ymarferol, gallai pwynt 4(a) wneud y gwrthwyneb i’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni, sef pontio’r bwlch rhwng dyhead a chyflawniad ymarferol.
Dysgais y Gymraeg fel ail iaith hyd at lefel TGAU, yn ôl pan oedd ysgolion cyfrwng Saesneg, yn y bôn, yn rhoi dewis o dderbyn hynny neu beidio. Llwyddais gael gradd A, ond nid euthum ymlaen i astudio ar gyfer Safon Uwch yn y Gymraeg gan nad oedd yr hyder gennyf i astudio ymhellach. Rwy’n dal i deimlo nad yw’r hyder hwnnw gennyf o ran y Gymraeg. Mae’r ffaith fy mod yn rhoi’r araith hon heddiw yn Saesneg yn dangos methiant mwy hirdymor y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag ef, a gofynnwn y cwestiwn heddiw: beth yn rhagor y gallwn ei wneud? Ond mae yna fater diwylliannol dwfn rwyf wedi’i weld yn aml yn fy nghymuned sy’n galw am ystyried yn drwyadl unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth. I roi enghraifft i chi, pan glywaf Aelodau yn siarad yn y Siambr hon ac mae’n rhaid i mi godi’r clustffonau, rwy’n teimlo’n rhwystredig nad yw fy nealltwriaeth o’r iaith yn ddigon da ac mae’n deimlad na fydd siaradwyr Cymraeg rhugl o bosibl yn ei werthfawrogi bob amser yn y cyd-destun hwnnw. Ac eto, mae’n rhwystr cyffredin i ddysgu rydym oll wedi’i wynebu. Pan fo rhywbeth yn anodd, sut rydym yn cymell ein hunain, sut rydym yn osgoi rhoi’r gorau iddi a gwrthod rywbeth—yn yr achos hwn, yr iaith Gymraeg—sy’n rhy anodd i’w gyflawni?
Mae strategaeth addysgu a dysgu dda yn mynd i’r afael â’r her hon, ond mae hefyd yn cymryd amser i ddatblygu, weithiau drwy brofi a methu. Mae’r cynnig yn cydnabod hyn mewn rhannau, a gallech ddweud bod adrannau (b) ac (c) efallai yn cydnabod hyn o bosibl, ond wrth nodi 2018 yn derfyn amser ar gyfer llunio a datblygu’r cymhwyster, mae’n cyfyngu ar yr amser sydd gennym i ystyried dulliau asesu priodol. Nid wyf yn credu y bydd adnoddau ychwanegol, megis gwario arian ar hyfforddiant athrawon, yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae amser a datblygiad diwylliannol yn faterion allweddol hefyd.
Fel y dywedais, rwy’n cefnogi egwyddor y cynnig, ond yn realistig, teimlaf na allwn gyflawni’r nod ym mhwynt 4(a) cyn cyflawni’r diwygiadau angenrheidiol i’r cwricwlwm. Am y rhesymau hyn, byddaf yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd ei hun yn ymrwymo i gyhoeddi amserlen realistig ar gyfer newid.