Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 21 Medi 2016.
Credaf ei bod yn werth ailadrodd nad oeddem yn dymuno gadael yr UE, ond roedd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn anghytuno, ac er fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig Simon Thomas ar ran Plaid Cymru, gan nodi pwysigrwydd aelodaeth o’r farchnad sengl Ewropeaidd, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i economi Cymru, roedd canlyniad y refferendwm yn glir. A’r unig ffordd y gallwn fod yn aelodau o’r farchnad sengl Ewropeaidd yw drwy fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn gefnogi’r cynnig. Rydym yn cefnogi gwelliant Paul Davies, gan fod mynediad at y farchnad sengl yn rhywbeth y mae’r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro ein bod yn ei gefnogi—mynediad llawn a dilyffethair.
Ond mae’n eironig gweld y Torïaid yn gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder. Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw eglurder i ni. Hwy sydd wedi ein rhoi ar y llwybr i adael yr UE; hwy sydd wedi methu cynllunio ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd nesaf. Nid oeddem eisiau gadael. Buom yn rhybuddio am y canlyniadau economaidd. Rhybuddiodd y Prif Weinidog y byddai Cymru ar ei cholled pe baem y tu allan i’r farchnad sengl. Cawsom addewidion gan ein Hysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, y byddem yn ffynnu y tu allan i’r UE. Ei gyfrifoldeb ef a Phrif Weinidog y DU yn awr yw egluro’n union sut y gallwn wneud hynny.
Fy mhryder yw sut yr awn i’r afael â’r anfodlonrwydd sylfaenol a daniodd y bleidlais i adael. Yn fy marn i, bloedd o boen oedd y refferendwm. Roedd pleidleiswyr y siaradais â hwy yn Llanelli wedi cael llond bol ac yn meddwl nad oedd ganddynt unrhyw beth i’w golli. Ers datganoli, rydym wedi llwyddo i sefydlogi perfformiad economaidd Cymru ond rydym wedi bod yn nofio yn erbyn llif y model economaidd sy’n crynhoi cyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn dibynnu arno i ddiferu i lawr i rannau eraill. Mae’r dull hwnnw wedi methu. Roedd y bleidlais i adael yn brotest yn erbyn hynny lawn cymaint ag yr oedd yn brotest yn erbyn yr UE. Gallem ddefnyddio gadael yr UE fel sbardun i ddatblygu strategaeth economaidd radical sy’n mynd i’r afael â chanlyniadau tebygol gadael yr UE, ac sy’n ailsefydlu Cymru fel ffwrnais orllewinol o arloesedd a diwydiant.
Mae’r chwyldro digidol yn trawsnewid y byd rydym yn byw ynddo yn gyflymach nag erioed. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir neu byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym. Mae gwaith yr Athro Karel Williams ar yr economi sylfaenol wedi ei seilio ar ei astudiaeth o’i dref enedigol, Llanelli. Efallai nad ydynt yn sectorau deniadol, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda’r pethau bob dydd: bwyd, ynni a gofal iechyd. Mae cwmnïau mawr preifat yn dominyddu’r sectorau hyn bellach. Dyma ble mae angen i ni adfer rheolaeth; nid chwalu rheolau masnach y dibynnwn arnynt, ond adfer rheolaeth ar ein heconomi leol er lles ein cymunedau a’r pedwar o bob 10 o weithwyr Cymru a gyflogir yn y sectorau bob dydd hyn.
Gwrandewais â diddordeb ar araith Adam Price. Y penderfyniad i adael yr UE oedd y sioc fwyaf mewn polisi tramor ers y rhyfel. Mae wedi ansefydlogi’r marchnadoedd. Nid oes rhyfedd ei fod wedi ansefydlogi Llywodraethau. Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol iawn fod yr achos dros adael yr UE wedi cael ei werthu ar sail yr arian ychwanegol i’r GIG a system bwyntiau fel Awstralia. Nid oeddem yn cefnogi hynny, ond roedd ein pleidleiswyr yn ei gefnogi, ac ni ddylem anwybyddu’r gwersi hynny. Mae’n rhaid i ni roi lle i Lywodraeth y DU ddod o hyd i atebion. Rhannaf ei amheuaeth na fydd hynny’n gweithio. Rwy’n rhannu’r amheuaeth. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i ildio.