<p>Hyrwyddo’r Gymraeg</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:30, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, sylwaf eich bod wedi datgan cefnogaeth i'r nod o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond nid oedd llawer o sylwedd y tu ôl i’r cyhoeddiad hwnnw. Tybed os gallwch chi ddweud wrthym yn union sut yr ydych yn bwriadu cyflawni’r ymrwymiad hwnnw. Beth yw eich targedau a’ch amserlenni ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud cynnydd tuag at y nod hwnnw? Er enghraifft, erbyn pryd y gallwn ni ddisgwyl cyrraedd y garreg filltir o weld tri chwarter miliwn o siaradwyr Cymraeg? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi dyddiad ar gyfer hynny i ni, os gwelwch yn dda.