Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 27 Medi 2016.
Cofiwch, wrth gwrs, bod y strategaeth mewn gwirionedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys ein cynigion o ran y ffordd ymlaen. Un maes, wrth gwrs, sy'n eithriadol o bwysig, yw gwneud yn siŵr bod gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg priodol, ac rydym wedi ei gwneud yn gwbl glir iddynt y byddwn yn gwrthod unrhyw gynllun y byddant yn ei lunio—unrhyw un o'r awdurdodau hynny—nad yw’n ddigon uchelgeisiol.