Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 27 Medi 2016.
Fel ŷch chi wedi dweud o’r blaen, Brif Weinidog, mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw yn ein cymunedau ni. Felly, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n annog pobl i ddefnyddio’r iaith ym mhob rhan o’u bywydau, sydd yn cynnwys defnyddio’r Gymraeg ar-lein, er enghraifft. Roedd comisiynydd yr iaith wedi ei gwneud hi’n glir yng nghrynodeb ei hadroddiad pum-mlynedd, nôl yn yr haf, fod yna botensial i dechnoleg hwyluso cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, achos mai Saesneg yw’r iaith a ddefnyddir ar-lein yn bennaf ar hyn o bryd. Yn yr amgylchiadau, a allwch chi ddweud wrthym ni fel mae’ch Llywodraeth chi’n mynd i hybu defnydd o’r Gymraeg ar-lein yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf yma?