Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 27 Medi 2016.
Wn i ddim beth oedd ef yn ei wneud pan oedd yn ddirprwy arweinydd Caerdydd, oherwydd, wrth gwrs, mae gan y cyngor gyfrifoldeb, nid ar gyfer yr orsaf reilffordd, rwy’n derbyn, ond yn sicr dros y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei ddatblygu erbyn hyn, wrth gwrs, gan gyngor dan arweiniad Llafur yng Nghaerdydd. Felly, mae’r orsaf fysiau newydd yn cael ei hadeiladu ac mae gan y ddinas borth priodol. Mae'n codi pwynt pwysig am yr orsaf reilffordd ganolog. Rwyf yn sicr wedi cyfarfod â Network Rail. Mae ganddynt gynlluniau ar gyfer yr orsaf, ac rydym wedi bod yn eu hannog i ddatblygu’r cynlluniau hynny cyn gynted ag y bo modd, gan gadw cymeriad yr orsaf, wrth gwrs, gan, ar yr un pryd, foderneiddio’r cyfleusterau sydd ar gael.