<p>Twristiaid sy’n Ymweld â Chymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:36, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae Visit Scotland yn gwario dros £50 miliwn ar hyrwyddo’r Alban. Yng Nghymru, Croeso Cymru, gwariwyd £8.3 miliwn ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Ond nid oes unrhyw ran o’r gwariant hwnnw yn cael ei wario'n benodol ar hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol i ymweld ag ef. Mae gennym y llwybr arfordirol, mae gennym drefi marchnad hardd yn edrych dros olygfeydd gwych yng nghanolbarth Cymru. A gaf i ofyn, Brif Weinidog: a yw'n ddigon da nad ydym ni’n hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol?