Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch fawr, Lywydd. Yn y ddogfen y Llywodraeth, 'Symud Cymru Ymlaen', mae’r adran ar iechyd yn dweud,
'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a lles i bawb.'
Ond, fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae llawer o rannau o Gymru lle mai dim ond dyhead yw hynny. Ac, yng Ngwynedd yn arbennig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, mae’r hanes yn union i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal les a ddiffinnir gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty cymuned ym mhob un heblaw am Flaenau Ffestiniog. Ac, ers 2013, rydym wedi gweld cau'r ysbyty coffa, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau'r uned mân anafiadau, cau clinigau teledermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa cangen wledig wedi cau, ac mae'r practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog a oedd i fod i gael pedwar o feddygon llawn amser, ond dim ond un meddyg cyflogedig ac amrywiaeth o feddygon locwm sydd yno. Cyn belled ag y mae Blaenau Ffestiniog yn y cwestiwn, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol, ond mae gwasanaeth iechyd syniadol. Beth mae e'n mynd i’w wneud am hyn?