Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, yn gyntaf oll, rydym wedi bod yn buddsoddi, fel y byddwn ym Mlaenau Ffestiniog, mewn canolfannau iechyd newydd sbon ar draws Cymru gyfan. Nid ydym yn gweld cadw hen adeiladau dim ond er mwyn gwneud hynny fel y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Mae'n hynod o bwysig bod Blaenau a chymunedau eraill yn cael mynediad at y cyfleusterau mwyaf cyfredol a modern â phosibl, ac mae enghreifftiau o hynny o amgylch Cymru, a dyna yn union yr hyn yr ydym eisiau ei gynnig i bobl Blaenau.