Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, mae gan bob un o'r chwe ardal lles eraill wedi cael ysbyty sydd ar agor am 24 awr y dydd. Bydd y ganolfan iechyd ym Mlaenau ar agor am ddim ond 10 awr y dydd. Mae hynny'n annerbyniol. Y dyhead yw bodloni anghenion y boblogaeth leol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mor agos i gartrefi cleifion ag sy'n bosibl. Mae cyrraedd Ysbyty Gwynedd o Flaenau Ffestiniog yn daith dwy ffordd o 80 milltir, neu siwrnai, ac, i lawer o bobl oedrannus, a phobl ar incwm isel, mae hyn yn golygu nad yw'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd yn rhad ac am ddim yn y man darparu iddyn nhw oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw dalu i fynd yno. Mae Gweinidogion, yn anffodus, wedi gwrthod ymyrryd yn yr achos hwn—yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'i ragflaenydd, Mark Drakeford—oherwydd eu bod yn dweud bod y penderfyniad i gau gwasanaethau lleol wedi ei gytuno yn lleol, ond, wrth gwrs, Betsi Cadwaladr a gytunodd i wneud hynny yn lleol. Pan ofynnwyd i bobl leol drwy refferendwm cymunedol, pleidleisiodd bron i 100 y cant o bobl yn erbyn cau’r gwasanaethau hynny. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog nawr, a wnaiff ef annog ei gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymyrryd yn bersonol yn yr achos hwn?