Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 27 Medi 2016.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid, fy mod wedi cael profiad o hyn, fel y cafodd fy etholwyr, pan gafodd y dref yr wyf yn ei chynrychioli ei brandio fel rhyw fath o brifddinas hunanladdiad, pryd yr oedd gennym newyddiadurwyr rheibus yn cyrraedd o Lundain a oedd yn ceisio cwestiynu pobl ifanc y tu allan i'r coleg lleol ac yn ceisio awgrymu iddynt ei bod yn well bod yn farw na byw yn yr ardal. Dyna'r union eiriau a ddefnyddiwyd. Nid oedd y bobl ifanc hynny a laddodd eu hunain, ar y cyfan, yn adnabod ei gilydd, er gwaethaf yr hyn a awgrymwyd gan y wasg. I ddod at y pwynt yr oedd hi’n ei wneud, roedd llawer ohonynt nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl. Roeddent yn syndod—roedd yr hyn a ddigwyddodd yn syndod i'w teuluoedd. Nid oeddent wedi cael unrhyw rybudd. Mewn rhai ffyrdd, dyna’r drychineb fwyaf oll, oherwydd bod pobl—[Torri ar draws.] Mae'n bwynt pwysig: dyma'r drasiedi fwyaf oll, pan fo gennych bobl ifanc nad ydynt yn hysbys i'r system ac nad ydynt wedi nodi eu hunain i'r system.
Gofynnodd beth sy'n cael ei wneud. Rwyf eisoes wedi crybwyll yr arian sydd wedi cael ei roi i mewn i CAMHS. Mae'n wir i ddweud bod y galw am CAMHS yn sylweddol, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi darparu mwy o adnoddau ar gyfer CAMHS er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl ifanc yn cael eu nodi. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym wasanaethau cwnsela yn yr ysgolion uwchradd er mwyn i bobl ifanc allu mynd i siarad â phobl yn gynnar. Mae hynny'n mynd â ni ymhell y tu hwnt i’r hyn a arferai fod yn wir yng Nghymru.