Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 27 Medi 2016.
Brif Weinidog, mae hanes eich Llywodraeth ar helpu pobl ifanc sydd ag iechyd meddwl gwael yn warthus, ac mae hynny heb sôn am y plant a phobl ifanc nad ydynt hyd yn oed yn cyrraedd y system. Mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl yn eu harddegau rhwng 15 a 19 oed yn uwch yng Nghymru nag yw yn Lloegr, ac ni fu unrhyw leihad mewn marwolaethau o anafiadau bwriadol ymhlith y grŵp oedran hwnnw, rhwng 10 a 18 oed, mewn tri degawd. Mae archwiliad cenedlaethol o achosion marwolaethau plant wedi awgrymu nad oedd nifer o bobl ifanc a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad wedi cael unrhyw gysylltiad o gwbl â'r gwasanaethau iechyd meddwl, ac, ar gyfer y rhai a oedd wedi cael cysylltiad, cafwyd problemau gyda gwasanaethau yn methu â chysylltu â chleifion nad oeddent wedi dod i’w hapwyntiadau cyntaf. Fe wnaethoch gyfaddef unwaith, Brif Weinidog, nad oedd eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw wrth ymdrin ag addysg. A wnewch chi nawr dderbyn nad yw eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw i iechyd meddwl plant a phobl ifanc? A wnewch chi nawr dderbyn bod hyn yn argyfwng ac a wnewch chi ddweud wrthym beth, ar ôl 17 mlynedd o arwain y Llywodraeth yma yng Nghymru, yr ydych chi’n bwriadu ei wneud am hyn?