Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 27 Medi 2016.
Mi wnaf ymuno, wrth gwrs, â’r Aelod i longyfarch yr Aelod dros Aberafan. Nid wyf yn siŵr y bydd y cytgord yn teyrnasu yn ei dŷ ef heno o ystyried yr hyn a ddatgelwyd i ni o ran gwybodaeth. Ond mae e’n iawn: yr her sy'n ein hwynebu yn y dyfodol yw, wrth i bobl fynd yn hŷn—bydd, bydd llawer o'r bobl hynny yn fwy ffit pan fyddant yn hŷn, ond, yn anochel, mae pobl yn cael nifer o gyflyrau bach sydd, gyda'i gilydd, yn ei gwneud yn anodd iddynt fyw eu bywydau yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae'n anghyffredin i rywun fod ag un cyflwr difrifol iawn sy'n ei wneud yn anabl. Yn aml iawn, cyfuniad o wahanol bethau ydyw. Beth, felly, y gall y gweithwyr proffesiynol perthynol iechyd ei wneud? Wel, canfod problemau yn gynnar ac ymyrraeth brydlon fel yr ymdrinnir â phethau yn gynnar; atal derbyniadau; rhyddhau wedi’i hwyluso; adsefydlu ac ailalluogi—pwysig iawn, yn amlwg; cefnogaeth ar gyfer cyflyrau cronig hefyd, fel nad oes yn rhaid i bobl â chyflyrau cronig fynd yn ôl yn barhaus i'r ysbyty er mwyn ymdrin â chyfnod gwaeth penodol mewn cyflwr cronig; ac, wrth gwrs, yr hyn y maent yn ei wneud o ran bod yn gallu ychwanegu at dîm amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol i helpu'r unigolyn. Rydym yn gwybod y bydd, yn y dyfodol, mwy o bwysau wrth i bobl fyw'n hirach— rhywbeth i'w groesawu—ond mae hefyd eiddilwch o ran y corff dynol na allwn ddeddfu ar ei gyfer, a bydd mwy a mwy o bobl, wrth iddynt fynd yn hŷn, angen cymorth â’r hyn a allai fod yn nifer o gyflyrau llai, ond er hynny, sydd yn sylweddol iddyn nhw fel unigolyn.