Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 27 Medi 2016.
Rwyf wedi ymweld yn yr wythnosau diwethaf â dwy fferyllfa yn fy etholaeth i—fferyllfa Rowlands yn Llanfair Pwllgwyngyll a fferyllfa Boots yn Llangefni. Mae fferyllfeydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol o fewn y ddarpariaeth ehangach o ofal sylfaenol ac mi fyddwn i’n sicr yn dymuno gweld y ddarpariaeth honno yn cael ei hymestyn. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen cael gwared ar rai o’r rhwystrau sy’n atal fferyllfeydd rhag gallu chwarae eu rhan i’r eithaf, yn cynnwys rhoi’r gorau i’r gwaharddiad ar hysbysebu rhai o’u gwasanaethau nhw, er enghraifft brechiadau y ffliw a gwasanaethau o ran atal ysmygu ac ati?