1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog nodi cam nesaf cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0158(FM)
Yes. We are extending the temporary relief scheme, which was due to end in March next year, for a further year. Then, we’ll be developing a new permanent scheme, which will be in place from April 2018.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nid yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i lynu at ei chynllun busnes presennol wedi cael y derbyniad efallai y byddech wedi ei hoffi yn eich etholaeth eich hun, Brif Weinidog. Mae masnachwyr eisoes yn uchel eu cloch wrth feirniadu’r ardrethi busnes uchaf yn fy rhanbarth i, a chymhellion ardrethi gwrthnysig i gadw siopau’n wag. Yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr, yn arbennig, nid ydynt yn hapus iawn â'r cyngor, a wnaeth ei orau i anwybyddu barn masnachwyr ar sut i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae rhai yn teimlo erbyn hyn eu bod wedi eu camarwain i gredu y byddai cynllun rhyddhad ardrethi Llafur yn wahanol i’r arfer, felly pa resymau allwch chi eu rhoi i ni am wneud y system bresennol yn barhaol yn hytrach na mabwysiadu polisïau’r Ceidwadwyr Cymreig o amgylch lluosydd gwahaniaethol a meinhau rhyddhad i £15,000?
Wel, mae’n rhaid i mi ddweud yn gyntaf oll, o ran fy nhref fy hunan, yr wyf yn ei hadnabod yn dda iawn, bod o leiaf tri gwahanol grŵp o fasnachwyr nad ydynt yn cytuno â'i gilydd, a dyna un o'r gwendidau y mae’r dref eu hwynebu. Yn ail, mae hi'n sôn am eiddo gwag. Y broblem fwyaf gydag eiddo gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw anhyblygrwydd landlordiaid—landlordiaid na wnant rentu, neu nad ydynt ond yn cynnig rhentu ar gyfraddau hurt. Rwyf wedi clywed enghreifftiau o fusnesau sydd wedi dweud wrthyf mai’r unig brydlesi y maent yn cael eu cynnig yw rhai am 10 mlynedd gyda rhenti o hyd at £25,000 y flwyddyn. Mae hynny'n hurt. Mae angen i rai o'r landlordiaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr ymuno â’r byd go iawn a deall nad yw’r ffordd o wneud pethau 40 mlynedd yn ôl yn iawn erbyn hyn.
Gofynnodd i mi pam na fyddem yn mabwysiadu polisi'r Ceidwadwyr. Yn syml iawn hyn: mae dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru, mae mwy na 70 y cant ohonynt yn derbyn cymorth, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Yn Lloegr, nid oes ond traean nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Felly, mewn gwirionedd, mae'r cynllun yng Nghymru yn llawer mwy hael na'r cynllun cyfrif ceiniogau sydd ar waith gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
Brif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi mynegi pryder ynghylch lefel eu hardrethi busnes, sy'n rhoi straen ar sefyllfa ariannol eu busnes. Gan eu bod y tu allan i'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae’n rhaid iddynt dalu’r ardrethi busnes llawn, beth bynnag yw'r fforddiadwyedd. Oni bai bod y perchnogion busnesau bach hyn yn dod o hyd i safle llai, rhatach na’r safle y maent ynddo ar hyn o bryd, maen nhw’n gorfod talu biliau ardrethi enfawr. Pa gynllun sydd gan eich Llywodraeth i godi'r trothwy rhyddhad ardrethi a sicrhau bod rhyddhad ardrethi yn rhoi ystyriaeth i fforddiadwyedd?
Wel, yr ydym eisoes wedi rhoi £98 miliwn i mewn i'r cynllun rhyddhad ardrethi. Mae’n rhaid cael trothwy, yn anffodus, a'r rhai sydd, fel y byddent hwy yn ei weld, ar ben anghywir y trothwy, bydd, bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ardrethi busnes. Yr hyn na allwn ei wneud yw cyflwyno system lle mae pawb yn cael rhyddhad ardrethi busnes ac nad oes neb yn talu ardrethi busnes. Fel unrhyw fusnes, mae’n rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau ynghylch maint eu safleoedd er mwyn deall yr hyn sy'n fforddiadwy iddyn nhw fel busnes.