Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Y gaeaf diwethaf, gwelsom lefelau digynsail o alw am ofal heb ei drefnu. Rhoddodd y bobl oedd yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar feddyg teulu dros fisoedd y gaeaf straen enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys wrth i gleifion fynd yno i gael triniaeth feddygol. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn fel na all y system ymdopi â'r cynnydd sydyn yn y galw tymhorol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r mater mynediad at feddygon teulu os ydym yn mynd i osgoi'r sefyllfaoedd a welsom y gaeaf diwethaf gyda llu o ambiwlansys y tu allan i ysbytai. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau a gwneud gwell defnydd o fferyllfeydd cymunedol wrth drin mân anhwylderau y gaeaf hwn? A fyddwch chi’n cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd i amlygu swyddogaeth fferyllfeydd wrth drin mân anhwylderau?