Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Medi 2016.
Rydym yn gwneud hynny; mae’r ymgyrch Dewis Doeth wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer ac, yn wir, mae yna ap ar gael i bobl sydd eisiau ei ddefnyddio. Rydym yn annog pobl i edrych, yn y lle cyntaf, ar fferyllydd, ac yna edrych ar nyrs gymunedol, ac yna meddwl am y meddyg teulu. Mae'n hollol iawn i ddweud wrth bobl, 'Peidiwch â mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys fel dewis cyntaf na mynd, mewn gwirionedd, at feddyg teulu yn gyntaf.' Felly, mae hynny eisoes ar waith. O ran y gwasanaeth y tu allan i oriau, mae ar gael yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth ac mewn mannau eraill. Nid nifer y bobl sy'n dod trwy adrannau damweiniau ac achosion brys yw’r broblem yn y gaeaf, ond y cyflyrau sydd ganddynt: mae llawer mwy o bobl hŷn â chyflyrau anadlol sy'n fwy cymhleth, sydd angen mwy o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac sydd, yn y pen draw, yn cael eu derbyn i’r ysbyty. Y llynedd, gweithiodd y cynlluniau parodrwydd yn dda. Gall fod yn anodd, wrth gwrs, i ragweld y galw ar y GIG yn y gaeaf oherwydd y tywydd, yn y bôn. Ond, serch hynny, rydym yn craffu ar barodrwydd pob bwrdd iechyd lleol i wneud yn siŵr y gallwn fod yn fodlon eu bod yn barod ar gyfer y gaeaf.