Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 27 Medi 2016.
Peidiwch â dweud nad yw hynny’n wir. A gaf i roi’r ffigurau, felly, er mwyn bod y wybodaeth yn iawn? Yn 2005, roedd 1,849 o feddygon teulu yng Nghymru; yn awr, mae 1,997. Ynglŷn ag ardal Betsi Cadwaladr, roedd 422 yn 2005 a 437 yn 2015. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’r cynnydd sylweddol mewn doctoriaid mewn ysbytai. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, mae yna ymgyrch sydd yn mynd i gael ei lansio ar ddiwedd mis nesaf er mwyn denu mwy o ddoctoriaid i weithio yng Nghymru.