<p>Prinder Meddygon yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:13, 27 Medi 2016

Nid wyf yn siŵr os ydw i eisiau diolch ichi am yr ateb, achos mae yna ddarlun gwahanol iawn i’w weld os ydych yn cyfri nifer y doctoriaid sy’n cyfateb i ddoctoriaid llawn amser. Ond, y cwestiwn rwyf am ofyn ichi yw: un o’r problemau gyda recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yw’r diffyg cyfleusterau iechyd ehangach lleol sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw meddygon teulu eisiau methu â gwneud eu gwaith oherwydd eu bod nhw’n methu â chael mynediad at welyau i’w cleifion, i beiriannau pelydr-x, i wasanaethau diagnostig ac yn y blaen yn lleol. A gaf i ofyn, felly, a fyddech yn barod i gomisiynu ymchwil gyda meddygon teulu gwledig, yn cynnwys, efallai, rhai sydd wedi rhoi’r gorau iddi, i adnabod eu pryderon ynglŷn â mynediad at adnoddau a chyfleusterau lleol ac i weithredu ar y canfyddiadau?