<p>Masnach Di-dariff </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:17, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dymuno hynny, ond mae’n ymddangos yn anffodus bod llawer o aelodau Llywodraeth y DU yn gwthio i’r cyfeiriad arall, sydd yn destun pryder mawr i'r oddeutu 6,000 o bobl sy'n dibynnu ar swyddi sydd wedi deillio o fuddsoddiad gan Siapan, gan gynnwys Panasonic yn fy etholaeth fy hun i fyny ym Mhentwyn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed sut yr ydym yn mynd i allu dylanwadu ar Lywodraeth y DU i sicrhau y byddwn yn parhau i gael masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd fel arall mae’r dyfodol ar gyfer mewnfuddsoddiad yn edrych yn ddu iawn.