1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
10. Beth yw'r goblygiadau i economi Cymru o ganlyniad i ddatganiad Japan ar y posibilrwydd o golli masnach di-dariff â'r DU yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0163(FM)
Mae datganiad Llywodraeth Siapan yn cwmpasu nifer o oblygiadau economaidd andwyol posibl wrth i’r DU adael. Rydym yn awyddus i fusnesau yng Nghymru gael mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl oherwydd y rhesymau a amlinellir gan y Llywodraeth honno.
Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn dymuno hynny, ond mae’n ymddangos yn anffodus bod llawer o aelodau Llywodraeth y DU yn gwthio i’r cyfeiriad arall, sydd yn destun pryder mawr i'r oddeutu 6,000 o bobl sy'n dibynnu ar swyddi sydd wedi deillio o fuddsoddiad gan Siapan, gan gynnwys Panasonic yn fy etholaeth fy hun i fyny ym Mhentwyn. Felly, roeddwn yn meddwl tybed sut yr ydym yn mynd i allu dylanwadu ar Lywodraeth y DU i sicrhau y byddwn yn parhau i gael masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd fel arall mae’r dyfodol ar gyfer mewnfuddsoddiad yn edrych yn ddu iawn.
I mi, mae cytuno ar y pwynt sylfaenol hwnnw yn hanfodol cyn y gallwn symud ymlaen i unrhyw beth arall. Dyna'r sail—y bloc adeiladu—y gall unrhyw gytundeb gael ei adeiladu arno. Oni bai ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny, mae'n anodd iawn gweld cynnydd ar unrhyw beth arall.
Rwy'n sicr yn pryderu bod y DU yn awr yn cael ei gweld fel nad yw’n dymuno ymgysylltu â'r UE. Ceir problemau. Cyfarfûm â phrif gomisiynydd Gibraltar ddau ddiwrnod yn ôl—y pryder sydd gan Gibraltar yw y bydd Sbaen yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb o unrhyw fath gyda'r DU oni bai bod mater Gibraltar yn cael ei ddatrys er boddhad Sbaen. Mae'n gyfle i Sbaen nad oedd yno o'r blaen, cyfle y mae Brexit wedi ei ddarparu. Felly, mae llawer iawn o ffactorau yn dal i fod yn berthnasol yn y fan yma, rhai ohonynt nad ydynt wedi eu nodi eto.
Diolch i’r Prif Weinidog.