Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Llyr. A gaf i ddiolch i chi am y cwrteisi yr ydych yn ei estyn i Syr Ian? Mae Syr Ian a'i gydweithwyr ar y panel adolygu, yn fy marn i, wedi gwneud darn sylweddol o waith, ac rwy'n ddiolchgar i'r cynrychiolydd Plaid Cymru ar y panel am ei waith diwyd gyda Syr Ian. Rwyf wir yn ddiolchgar am hynny.
Mae cynaliadwyedd yn elfen allweddol o ymateb y Llywodraeth i’r pecyn hwn. Rydym eisiau bod yn gwbl sicr fod hyn yn fforddiadwy, o ran cymorth i fyfyrwyr, a’i fod yn darparu cynaliadwyedd a gweledigaeth ar gyfer cyllid i sefydliadau yng Nghymru. Mae’r mater ynglŷn â chynaliadwyedd yn sicr yn un sy'n allweddol i mi ac yn allweddol i'r Gweinidog cyllid o ran y trafodaethau y byddwn yn eu cael. Rwy’n cydnabod, yn glir iawn, fod Syr Ian yn gweld hyn fel pecyn cyflawn, a byddaf yn edrych i weithredu'r adolygiad yn ei grynswth. O ran cyllid, byddwch chi’n ymwybodol bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn golygu bod angen i ni symud y cydbwysedd o ran lle y mae’r arian presennol yn cael ei wario, yn enwedig os ydym am allu cynnig y cymorth i fyfyrwyr rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig y mae Syr Ian yn ei ragweld o fewn yr adroddiad. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, yn fy nghytundeb â'r Prif Weinidog a sicrhaodd le i mi yn y Llywodraeth, ein bod wedi dweud y byddem ni’n gweithredu adroddiad Diamond cyn gynted â phosibl, ac nid ar draul y gyllideb Addysg Uwch. Nid dim ond adroddiad yn ymwneud â chymorth i fyfyrwyr unigol yw’r adroddiad hwn, ond mae hefyd yn amlinellu sut y gallwn ryddhau adnoddau i sicrhau cynaliadwyedd o ran cyllid ar gyfer pethau megis cyrsiau drud ac ymchwil.
Rydych chi’n codi rhai pwyntiau ynghylch Addysg Bellach. Byddwch chi’n ymwybodol bod is-grŵp wedi’i sefydlu yn rhan o'r adolygiad Diamond er mwyn pwyso a mesur y materion yn ymwneud ag Addysg Bellach. Mae Syr Ian yn argymell y dylid canolbwyntio ar addysg alwedigaethol a thechnegol, a sut y gallwn greu cysylltiadau cryfach rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch, fel bod gan bobl gyfle i astudio cyrsiau lefel Addysg Uwch yn y sector Addysg Bellach, ond hefyd er mwyn galluogi pobl i drosglwyddo o Addysg Bellach i Addysg Uwch, yn enwedig wrth ddatblygu rhaglenni a noddir gan gyflogwr. Felly, mae gan gyflogwyr swyddogaeth yma hefyd wrth wneud yn siŵr fod gennym ni’r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer yr economi yn y dyfodol.
O ran cludadwyedd, rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig iawn y bydd y pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gael i fyfyrwyr lle bynnag y maent yn astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae Syr Ian yn gwneud argymhellion o ran cael gafael ar gyfleoedd astudio yn Ewrop, ac yn wir rwy’n deall y bore yma ei fod yn sôn am gael gafael ar gyfleoedd astudio ar draws y byd, a byddwn i’n sicr yn dymuno gweld sut y gallwn ni gyflenwi hynny’n ymarferol. Nid wyf eisiau rhoi terfyn ar uchelgais unrhyw fyfyriwr o Gymru, ac os ydynt yn llwyddo i gael eu derbyn i brifysgolion gorau'r byd, yna rwyf am i Lywodraeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth o ran caniatáu iddynt wireddu’r uchelgeisiau hynny. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn ehangu’r cyfleoedd hynny i astudio yn Ewrop a ledled y byd.
O ran cymhelliant, fel y mae’r Aelod yn dweud, mae'r adroddiad Diamond yn cyflwyno argymhelliad y gallem ni edrych ar gynlluniau cymhelliant a fyddai’n sicrhau bod graddedigion o Gymru yn dychwelyd neu’n aros yng Nghymru. Byddaf yn wir yn ystyried sut y gallwn wneud hynny, fel y gallwn ddod â sgiliau i Gymru a’u cadw yma. Mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar y cynigion, a allai fod yn gymhleth iawn i'w gweinyddu, ac a fyddai angen i Drysorlys Ei Mawrhydi gytuno ein bod yn gallu ad-dalu pob benthyciad, gan mai nhw sy’n gyfrifol am bob benthyciad. Ond fel y gwnaethoch chi ddweud, roedd hyn yn elfen allweddol o bolisi Plaid Cymru, felly rwy'n siŵr bod y blaid wedi meddwl yn ofalus iawn am rai o'r cymhlethdodau sydd ynghlwm wrth gyflawni cynllun o'r fath. Er enghraifft, os bydd rhywun yn byw yng Nghasnewydd ond yn gweithio ym Mryste, neu os oes rhywun yn byw yng Nghaer ond yn gweithio yn Alun a Glannau Dyfrdwy—natur y gwaith, natur y sgiliau sy’n dod â phobl i Gymru—mae'r rhain yn faterion cymhleth. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, a byddaf yn derbyn cynnig yr Aelod i weithio gyda Phlaid Cymru, er mwyn gweld sut y gallwn gyflwyno cynllun fel yr argymhellir yn adroddiad Diamond, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i oresgyn rhai o'r cymhlethdodau y mae Syr Ian wedi’u nodi sydd ynghlwm wrth gynllun o'r fath. Ond rwy’n awyddus iawn i dderbyn yr argymhelliad hwnnw.