Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn hefyd gofnodi diolch grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r Athro Diamond, ac yn wir i holl aelodau'r panel, yn enwedig ein henwebai, yr Athro David Warner, am ei gyfraniad at y gwaith rhagorol y maent wedi'i wneud. Rydym ni’n sicr yn croesawu'r cyhoeddiad; rydym ni’n llwyr groesawu'r argymhellion a wnaed i symud oddi wrth gymorth ffioedd dysgu, a thuag at system o grantiau cynhaliaeth sy’n seiliedig ar brawf modd. Dyma rywbeth, wrth gwrs, y mae ein plaid wedi bod yn ei hyrwyddo ers peth amser, ac rwy'n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith bod rhai rhannau o ymrwymiadau pob plaid unigol wedi’u hymgorffori o fewn yr argymhellion a wnaed. Rydym fel plaid, wrth gwrs, bob amser o’r farn na ddylai neb gael gwrthod y cyfle i fynd i'r brifysgol ar sail eu cefndir. Rydym eisiau i gymaint o bobl ifanc ag sy’n bosibl sy’n dymuno mynd i’r brifysgol, allu dilyn addysg prifysgol.
Un peth yr wyf yn awyddus iawn i glywed gennych chi amdano, serch hynny, Weinidog, yw—yn amlwg, mae yna bobl sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg prifysgol, yn rhan o’r system grantiau bresennol. Ceir argymhelliad clir iawn gan yr Athro Diamond y dylid parhau i ganiatáu i’r unigolion hynny sydd eisoes wedi cychwyn ar eu haddysg yn y brifysgol gyda’r pecyn cymorth cyfredol i barhau i dderbyn y pecyn hwnnw drwy gydol eu cwrs ac iddynt beidio â bod dan anfantais, efallai, yn dilyn unrhyw newidiadau o ganlyniad i unrhyw drefniadau newydd a ddaw i rym. A allwch chi gadarnhau y bydd hynny'n wir ar gyfer yr unigolion hynny er mwyn sicrhau nad ydynt dan anfantais?
Mae rhai o'r meysydd lle'r oedd yn amlwg bod trafodaeth yn parhau o fewn y panel ac nad oedd dim casgliadau cadarn yn ymwneud â chefnogaeth i rieni sydd am fynychu'r brifysgol—pobl a allai fod yn famau sengl neu’n rhieni sengl neu bobl a chanddynt gyfrifoldebau gofalu eraill. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw ystyriaeth wedi bod cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r adroddiad ynghylch pa fath o gymorth a allai fod ar gael i helpu unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu i ddilyn addysg prifysgol. Nodaf a chroesawaf yr argymhellion a wnaed ynglŷn â chymorth rhan amser. Credaf fod croeso mawr iddynt yn wir, er mwyn rhoi mwy o chwarae teg ac, yn wir, er mwyn annog mwy o bobl i astudio yn rhan amser. Rydym ni i gyd yn gwybod bod myfyrwyr rhan amser yn fwy tebygol o dalu eu benthyciadau yn ôl, er enghraifft, felly ceir cymhelliant ariannol da i annog pobl i astudio’n rhan amser, ac, wrth gwrs, maent yn weithredol iawn yn cyfrannu at economi Cymru wrth iddynt astudio, os ydynt yn gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Felly, hoffwn glywed yn arbennig gennych chi, Weinidog, am ba mor gyflym yr ydych yn gobeithio gallu gweithredu'r cynigion astudio rhan amser.
Roedd gennyf hefyd ddiddordeb mawr yn yr argymhellion a wnaed ynglŷn â buddsoddi mewn trosglwyddo gwybodaeth. Ceir argymhelliad arwyddocaol yn ymwneud â chynyddu buddsoddiad yn y maes hwnnw. Rydym ni’n gwybod bod nodyn yn yr adroddiad ynglŷn â—bod pob £1 a fuddsoddir yn y gronfa arloesi addysg uwch ar hyn o bryd yn dychwelyd £7 i economi Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n werth da iawn am arian ac, felly, byddwn i’n gobeithio y byddech chi’n ystyried yn llawn yr argymhelliad a wnaed am fuddsoddiad pellach mewn trosglwyddo gwybodaeth.
Nid oedd unrhyw gyfeiriad penodol at y bwrsarïau cyfredol sydd ar gael i fyfyrwyr nyrsio yma yng Nghymru. Rydych chi’n gwybod y ceir cefnogaeth gan bob plaid yn y Siambr ar gyfer parhau â’r trefniadau presennol, ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi ystyried, gan eich bod yn chwilio i weld pa sgiliau y gellid eu cadw yng Nghymru a sut i ddenu pobl, yn enwedig yn y rhannau hynny o'r sector cyhoeddus lle mae gennym brinder sgiliau, megis y GIG, ba un a allai fod dewisiadau bwrsariaeth eraill y gellid eu hystyried a'u hehangu, yn enwedig o gofio bod y ffigurau yn yr adroddiad yn tueddu i awgrymu y bydd yna arbediad net o ganlyniad i weithredu’r pecyn hwn o ddiwygiadau a gynigir gan yr Athro Diamond a'i dîm.
Ac yn olaf, rydych chi wedi dangos eich bod chi, yn amlwg, eisiau mynd i ffwrdd a rhoi mwy o ystyriaeth i’r argymhellion cyn cyhoeddi ymateb llawn ar ran y Llywodraeth. Mae’n amlwg bod yr Athro Diamond yn teimlo bod y rhain yn argymhellion y gellir eu rhoi ar waith yn 2018, ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd yn 2018. Tybed a ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu cyflawni nod sydd, yn fy marn i, yn un uchelgeisiol, o ystyried bod angen i bob un elfen fod yn ei lle o ran y trafodaethau sy'n rhaid i chi eu cael â Llywodraeth y DU, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac eraill er mwyn ymgorffori newid sylweddol i'r system heb unrhyw broblemau mawr.