Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am hynny. A allaf, hefyd, ymuno â chi i ddiolch i enwebai’r Ceidwadwyr am ei ran yng ngwaith yr adolygiad? Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Rydych chi’n codi pwynt da iawn ynghylch amddiffyn carfannau penodol, ac rwyf am ei gwneud yn gwbl glir heddiw y bydd myfyrwyr sydd eisoes yn rhan o’r system ac sy’n derbyn pecyn cymorth penodol i fyfyrwyr, yn cwblhau eu taith addysgol gan ddefnyddio’r un pecyn cymorth hwnnw. Ni fyddai'n deg newid y rheolau ar gyfer myfyrwyr sydd hanner ffordd trwy eu cwrs. Felly, byddwn yn cynnig amddiffyniad i’r carfannau hynny sydd eisoes yn rhan o’r system ac, yn wir, sy’n gwneud cais drwy’r system. Oherwydd os ydych chi’n gwneud cais i brifysgol ac yna, hanner ffordd drwy'r flwyddyn honno, eich bod chi’n sylweddoli, mewn gwirionedd, bod yr amgylchiadau wedi newid eto, ni fyddai hynny'n deg. Rwyf am wneud hynny'n glir iawn i bobl heddiw: y bydd yna amddiffyniad i garfannau. Dyna'r unig ffordd deg o reoli'r broses bontio o un system i'r llall.
O ran pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, mae’r gallu i gefnogi myfyrwyr rhan amser mewn ffordd deg, gobeithio, yn rhoi’r cyfle i’r bobl hynny efallai nad yw'n ddichonadwy, ymarferol neu’n fforddiadwy iddynt astudio’n llawn amser, i astudio’n rhan amser. Dyna beth sydd yn wirioneddol bwysig am y pecyn hwn: oes, mae angen i ni sicrhau ein bod yn edrych ar ôl y myfyrwyr israddedig traddodiadol ond, mewn gwirionedd, natur addysg uwch yw hyfforddiant—natur ein gweithlu a'n poblogaeth mewn hyfforddiant. Mae pobl yn dymuno gallu bod yn hyblyg o ran sut y maent yn caffael sgiliau lefel uwch. Mae'n hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi. Felly, mae’r gallu i ddarparu cymorth i fyfyrwyr rhan amser yn bwysig iawn. Mae hefyd yn bwysig nodi bod y pecyn hwn yn canolbwyntio ar y gefnogaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, neu blant a chanddynt brofiad o'r system ofal, er mwyn sefydlu system gynhaliaeth ar eu cyfer, a fydd yn eu galluogi i allu mynd i brifysgol heb bryderu am gostau byw ymlaen llaw—sut y maent am dalu am eu rhent, eu bwyd, eu llyfrau. Gwn fod materion yn ymwneud â gofalwyr o ddiddordeb arbennig i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yn fy nghyfarfodydd gydag UCM Cymru, rwyf wedi addo y byddaf yn pwyso a mesur, mewn gwirionedd, pa rwystrau sy’n wynebu gofalwyr wrth gael mynediad at addysg uwch, ac os yw’n bosibl, hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd o ran hynny oherwydd rwy’n gwybod ei fod yn peri pryder arbennig i UCM Cymru.
O ran amseru, fel y byddwch chi’n ymwybodol, ceir nifer o gamau y mae angen i mi eu dilyn, a’r cyntaf ohonynt yw mynd at Drysorlys Ei Mawrhydi. Efallai y gallai Darren Millar fanteisio ar gefnogaeth ei blaid i leddfu’r trafodaethau hynny. Y Trysorlys sy’n gyfrifol am y llyfr benthyca, ac felly ni allwn wneud cynnydd ar hyn oni chaf ganiatâd gan y Trysorlys. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol, o ddarllen adroddiad Syr Ian, fod cyfyngiadau gwirioneddol o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, yr ydym yn gyfranddaliwr lleiafrifol ohono. Mae'n rhaid i mi fod yn gwbl hyderus y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, wrth symud ymlaen, yn gallu ymdopi â’r system hon a’i gweinyddu. Nid wyf am i fyfyrwyr o Gymru fynd i drybini â’r system newydd oherwydd diffyg gallu o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ni fyddaf yn symud ymlaen hyd nes i mi gael sicrwydd pendant y gallai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ddarparu ar gyfer ein systemau. Fel arall, efallai y byddai hynny yn gwneud dim ond achosi anawsterau i fyfyrwyr o Gymru, ac rwy’n awyddus i osgoi hynny.
Mae trosglwyddo gwybodaeth yn gwbl allweddol. Nid dim ond aros ar gyfer gweithrediad adroddiad Diamond yr ydym ni. Rwyf i, Julie James a’m cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet Ken Skates, eisoes yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud ym maes trosglwyddo gwybodaeth mewn prifysgolion. Mae rhai o'r prosesau yn gymhleth iawn, ac nid ydym yn cael y gwerth gorau am yr arian yr ydym yn ei wario ar hyn o bryd. Felly, mae gwir angen inni edrych ar y system honno, nid dim ond yng nghyd-destun Diamond, ond yr hyn y gallwn ni wneud mwy ohono o ran addysg uwch a throsglwyddo gwybodaeth.
Mae bwrsariaethau nyrsio yn fater ar gyfer fy nghydweithiwr, yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am iechyd, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo bethau diddorol i'w dweud wrth ymateb i ddadl plaid leiafrifol Plaid Cymru, brynhawn yfory o ran nyrsio. Felly, nid wyf am achub y blaen ar unrhyw beth y bydd ef o bosibl yn ei ddweud yn y ddadl yfory.