Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 27 Medi 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a hoffwn hefyd gydnabod llwyddiant anhygoel ein tîm pêl-droed cenedlaethol yr haf hwn hefyd. Rwy’n meddwl rhwng y Gemau Paralympaidd, y Gemau Olympaidd a'r Euros, ein bod fwy na thebyg wedi cael yr haf gorau o ran chwaraeon i athletwyr Cymru yn ystod oes unrhyw un ohonom. Efallai, pe byddai gennym hinsawdd gaeaf alpaidd, y gallem fod yn disgwyl casgliad da o fedalau ymhen dwy flynedd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Er mwyn bod yn dda mewn chwaraeon, mae’n wir bod yn rhaid i chi gael cymhelliant, rhaid i chi gael cyfle i gymryd rhan, ond rhaid i chi hefyd gael y gefnogaeth honno. Roedd yr Aelod yn llygad ei le i gydnabod bod hyfforddwyr yn arbennig o bwysig wrth gasglu nifer mor dda o fedalau yn gemau Rio.
O ran digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rwy'n falch bod yr Aelod yn cydnabod pa mor bwysig yw cynnal digwyddiadau mawr yn y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, rwyf eisoes wedi bod yn glir yn datgan ein huchelgais i gynnal taith fawreddog yn ogystal â Ras Gefnfor Volvo. Wrth gwrs, y flwyddyn nesaf, byddwn yn cynnal y digwyddiad chwaraeon undydd mwyaf y byd: rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Rwy'n herio unrhyw Aelod i enwi gwlad ag oddeutu 3 miliwn o bobl sydd wedi cynnal cynifer o ddigwyddiadau diwylliannol neu chwaraeon mawr ag y gwnaeth Cymru yn y degawd diwethaf. Mae gennym record hynod o falch.
Ond, o ran Gemau'r Gymanwlad, fel y gwneuthum herio'r Aelod o Blaid Cymru, mae hwn yn ymrwymiad enfawr a fyddai'n gofyn am rhwng £1.3 biliwn ac £1.5 biliwn i’w gynnal. Gwn fod Aelodau wedi cael cyfle i gael eu briffio gan Gemau'r Gymanwlad yng nghyswllt y gwaith a wnaed i edrych ar y potensial o gynnal gemau 2026, ac rwy’n gobeithio bod y briff wedi tawelu rhai o'r pryderon oedd gan yr Aelod hwn ac Aelodau eraill. Rwyf am fod yn glir ein bod yn dymuno gweld newidiadau i reolau Gemau'r Gymanwlad a fyddai'n ein galluogi ni i’w cynnal yn y dyfodol. Yn yr un modd, y rheswm pam y cyhoeddais adolygiad o gyfleusterau chwaraeon yw y byddwn yn gallu mapio, nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol, y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer y genedl, fel y gallem wedyn hefyd o bosibl gynnig cais drwy ein hawl ein hun yn y dyfodol, am y gemau. Rhaid i un peth fod yn glir: mae’n rhaid i’r man sy’n cynnal y digwyddiadau gyd-fynd â’r man lle rydym yn adeiladu'r seilwaith a'r cyfleusterau, oherwydd nid ydym yn dymuno bod mewn perygl o fuddsoddi'n drwm mewn seilwaith na fyddai wedyn yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn dymuno buddsoddi yn nyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a gobeithio y bydd hynny wedyn yn cael ei adlewyrchu mewn mwy o ddigwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Un pwynt arall, o ran dathlu llwyddiant—ac mae hyn yn ystyried pwynt a wnaed gan y siaradwr blaenorol o ran arwyr chwaraeon lleol—rwy'n credu ei bod yn hanfodol y flwyddyn nesaf, fel rhan o Flwyddyn yr Anfarwolion, bod grwpiau cymunedol ac, yn wir, Aelodau lleol, yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo'r anfarwolion, boed hynny ym maes bocsio, rygbi, neu ba bynnag gamp y gallai fod—neu ddiwylliant—o fewn eu cymunedau ac yn genedlaethol. Mae hwn yn gyfle i Gymru frandio ei hun fel lle sy'n dathlu llwyddiant ac sy'n hybu llwyddiant mawr. Rwy’n meddwl, ym Mlwyddyn yr Anfarwolion, y gallwn wneud hynny mewn cyd-destun chwaraeon yn ogystal â chyd-destun diwylliannol.