Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 27 Medi 2016.
Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cymeradwyo ymdrechion yr athletwyr o Gymru a fu'n cystadlu yn Rio, yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd, p'un a wnaethant ennill medalau neu beidio, ac rwy'n siŵr y bydd y croeso adref yn achlysur gwych.
Mae’r Gweinidog yn cyfeirio, yn ei baragraff olaf, at y ffaith bod rhagoriaeth chwaraeon yn dechrau gyda chyfranogiad ar lawr gwlad. Mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at hyn yn gynharach heddiw yn y ddadl hon. Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn gofyn i'r Llywodraeth barhau i fod yn ymwybodol o'r angen i gadw llwybrau chwaraeon yn agored i bawb. Rwyf wedi sôn o'r blaen am broblem y cynnydd syfrdanol yn ffioedd clybiau bowlio, yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae Neil McEvoy wedi codi mater y gost i bobl ifanc o ddefnyddio caeau pêl-droed 3G, y mae ef wedi’u crybwyll eto heddiw. Rwyf hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i gadw ffioedd canolfannau hamdden i lawr, nawr bod llawer o gynghorau yn rhoi gweithrediadau canolfannau hamdden allan ar gontractau i gwmnïau preifat. Gwn fod Llywodraeth Cymru yn cysylltu chwaraeon ag iechyd cyffredinol, a gwn fod gennych strategaeth ar gyfer cynyddu gweithgareddau chwaraeon ymysg y boblogaeth ehangach. Ond mae angen i ni fynd i'r afael â'r mathau hyn o broblemau sylfaenol os yw’r strategaeth honno i fod yn effeithiol, ac os ydym yn y pen draw am gael poblogaeth iach yma yng Nghymru. Felly, tybed beth, yn benodol, y gellir ei wneud am y materion hyn.
Y pethau eraill sydd wedi eu crybwyll—y cais am Gemau'r Gymanwlad. Roeddwn i, yn bersonol, yn eithaf pwyllog am y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â hynny oherwydd byddai'n well gennyf weld arian yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon yn y gymuned yn hytrach na digwyddiadau elitaidd. Fodd bynnag, er fy mod yn gwybod eich bod yn cydnabod hynny ar y pryd, gofynnais gwestiwn i chi, Weinidog, sef: a fyddai rhywfaint o'r arian a arbedwyd o beidio bwrw ymlaen â'r cais hwnnw mewn gwirionedd yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon llawr gwlad? Felly, byddwn yn codi'r cwestiwn hwnnw eto.
Yn olaf—gan grwydro ychydig oddi ar y testun—soniodd Neil am Paolo Radmilovic, enillydd medal aur Olympaidd gyntaf Cymru. Rwy'n credu bod rhai o'i fedalau ar gyfer polo dŵr. Mae'n gamp sydd bob amser wedi fy nrysu i. Dwi’n dal ddim yn gwybod sut maent yn cael y ceffylau i mewn i'r dŵr—efallai y gallech chi fwrw goleuni ar hynny i mi. Diolch.