Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 27 Medi 2016.
Rwy'n edrych ymlaen at y dathliadau croeso adref ddydd Iau. Mae'n iawn ac yn briodol bod y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyflawniadau—y cyflawniadau anhygoel hynny—gan Olympiaid a Pharalympiaid Cymru, a hefyd yn rhoi cyfle i bobl Cymru i ymuno â ni yn y dathlu hefyd.
Rwy'n arbennig o falch o gael cynrychioli etholaeth sy'n ymfalchïo, nid yn unig mewn enillydd medal Paralympaidd, ond enillydd medal aur Olympaidd, hefyd. Chwalodd Sabrina Fortune o Fryn-y-Baal, sy’n bedair ar bymtheg oed, ei gorau personol a hawlio medal efydd mewn taflu maen F20. Rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr yn ymuno â mi yma i fynegi ein llongyfarchiadau i Sabrina ar ei llwyddiant.
Ac, wrth gwrs, mae Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd dwbl, 'the headhunter', ‘the fighter from Fflint', neu, mewn gwirionedd—dylwn ei ddweud sut yr ydym yn ei ddweud yn y Fflint— ‘the fighter off Fflint'. Mae tref enedigol Jade yn hynod falch o bopeth y mae hi wedi ei gyflawni. Yn ôl ym mis Awst, daeth y gymuned gyfan ynghyd i wylio’r ornest, ac i annog Jade i fuddugoliaeth tan yr oriau mân. Yn wir, roeddwn yn meddwl y diwrnod canlynol y dylem fod wedi gwneud cyhoeddiad trefn gyhoeddus i ddweud wrth unrhyw un oedd yn mynd drwy'r Fflint fynd yn dawel iawn, oherwydd bod y dref gyfan yn dod ati ei hun.
Daeth y gymuned ynghyd unwaith eto ychydig dros wythnos yn ôl i ddathliad croeso adref i Jade a oedd yn gweddu i’w llwyddiannau. Cafwyd gwasanaeth dinesig, taith mewn bws to agored o amgylch y dref, a thân gwyllt, gyda'r diweddglo mawreddog yng nghastell y Fflint yn edrych yn anhygoel, wedi ei oleuo mewn aur. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud cais gennyf i ar hap yn ystod oriau mân y bore i oleuo'r castell yn realiti, ac fe wnaeth pobl fwynhau hynny—hefyd, pob clod i Gyngor Sir y Fflint a chyngor y dref am drefnu pethau mewn pryd.