Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 27 Medi 2016.
Rwyf innau ar goll hefyd o ran y gamp y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, ond credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn: bod rhaid cydbwyso buddsoddi mewn chwaraeon elitaidd â buddsoddi mewn chwaraeon yn y gymuned. Mae’n hanfodol fod pob unigolyn mewn cymdeithas yn cael cyfle i gael mynediad at yr hyn yr wyf i’n ei alw’n esgynnydd gweithgaredd. Does dim ots ar ba lefel yr ydych yn rhoi stop ar eich perfformiad, p’un a ydych yn mynd i fod yn cerdded i'r siopau neu’n cynyddu hynny i redeg yno bob dydd, ac yna yn y pen draw yn dod yn sbortsmon elît, cyn belled â’ch bod yn actif mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod digon o adnoddau ar gael ar lawr gwlad i alluogi pobl i gymryd rhan mor agos i'w cartref ag y gallant neu, yn wir, yn yr awyr agored. Felly, o ran buddsoddi, mae'n rhannu £1 am bob £3 yn fras—am bob £1 a fuddsoddir yn yr elît mae £3 yn cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon cymunedol. Mae chwaraeon cymunedol hefyd yn awr yn cynnwys, wrth gwrs, ffyrdd anffurfiol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Felly, gallai fod yn bêl-droed cerdded, neu gemau stryd neu rygbi cyffwrdd. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw agor cyfleoedd i ystod mor eang o bobl â phosibl.
Nododd yr Aelod yn briodol hefyd bwysigrwydd rhoi cydnabyddiaeth i bobl a berfformiodd yn y Gemau Paralympaidd ac a gafodd lwyddiant mawr. Rwy’n meddwl bod Chwaraeon Anabledd Cymru yn arbennig yn y blynyddoedd diwethaf wedi dangos llwyddiant anhygoel ac wedi gwneud cynnydd mawr o ran cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol . Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr wyth medal a enillwyd yng ngemau Rio. Credaf fod hynny yn llwyddiant rhyfeddol o ystyried, yn ôl yn Llundain 2012, y cafwyd chwe medal. Felly, mae cynnydd o'r fath i’w groesawu gan bawb yn wir.
O ran cost Gemau’r Gymanwlad—ac rwy’n cofio bod yr Aelod wedi rhoi croeso cyffredinol i’n safbwynt ni ar y mater hwn—nid yw’n fater o arian yn cael ei arbed drwy beidio â gwneud cais am y gemau. Pe byddem wedi bwrw ymlaen â'r cynnig am y gemau, yr hyn fyddai’n digwydd wedyn byddai arian yn gorfod cael ei nodi o grwpiau gwariant mawr sy'n bodoli eisoes. Felly, yn y bôn, byddai het wedi gorfod mynd o gwmpas y Llywodraeth, pob adran—addysg, iechyd, trafnidiaeth; byddai wedi mynd i faterion gwledig, i gymunedau—a byddai cyfraniadau wedi gorfod cael eu gwneud. Felly, nid yw'n arbediad y gellir ei ail-fuddsoddi fel y cyfryw. Ond, fel y dywedais wrth siaradwr blaenorol, bydd ffurfio bond lles Cymru, sydd â'r nod o fuddsoddi mewn triniaethau a gweithgareddau sy'n atal afiechyd, yn arbennig salwch meddwl, a hefyd y fenter yr ydym yn ei galw'r gronfa her, yn anelu at gynyddu buddsoddiad cyffredinol mewn chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.