Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 27 Medi 2016.
Iawn. Rwy’n cyrraedd yno, peidiwch â phoeni.
Rydym ni bellach yn edrych ar ffyrdd y gall y Fflint gydnabod yn fwy parhaol lwyddiannau Jade a balchder ei thref enedigol yn ei hymladdwraig enwog, ond hefyd etifeddiaeth yr hyn a wnawn yn lleol o ran ychwanegu at y nifer sy'n manteisio ar taekwondo a chwaraeon eraill. Ond rwyf ychydig yn bryderus am yr awgrym y dylwn i fynd i mewn i'r cylch gyda Jade fy hun.
Wrth gwrs, ar lefel Cymru gyfan, y ffordd fwyaf addas i gydnabod y cyflawniad hwn yw ein bod yn gallu adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chreu Paralympiaid ac Olympiaid y dyfodol. Felly, byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru a phob un ohonom yma mewn gwirionedd i arwain drwy wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.