Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 27 Medi 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad gwerthfawr a chydnabod bod Hannah Blythyn, rwy’n meddwl, yn cynrychioli ardal sydd yn ôl pob tebyg â’r crynodiad uchaf o fedalau Olympaidd ar hyn o bryd yng Nghymru? Mae llwyddiant Sabrina a Jade yn eithaf rhyfeddol a hoffwn anfon fy llongyfarchiadau yn uniongyrchol iddynt hwy hefyd. Rwy’n gwybod pa mor bwysig oedd buddugoliaeth Jade Jones i gymuned y Fflint; roeddwn yn bresennol am ran o'r diwrnod. Gwn fod gan yr Aelod fwy o ddyfalbarhad na fi—roeddech chi’n bresennol drwy gydol gornestau Jade yng Ngwesty Mountain Park yn y Fflint. Roedd yn achlysur anhygoel a welodd gannoedd o bobl—nifer rhyfeddol o bobl ifanc—yn dathlu, gadewch i ni ei wynebu, eicon o'r ardal leol sy'n cystadlu ar y lefel uchaf. Yn ogystal â ffrindiau a theulu ac, nid oes gen i unrhyw amheuaeth, dieithriaid i Jade, roedd pobl o'r clwb taekwondo lleol a hefyd ei chyn hyfforddwr. Gallai fod yn ymweliad priodol i ni—fi fy hun a'r Aelod lleol—ymweld â'r clwb lle dysgodd Jade taekwondo a lle mae bellach, rwy’n gwybod, nifer fawr o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gamp.
Anogodd Neil McEvoy Lywodraeth Cymru i gydnabod arwyr chwaraeon—byddwn yn gwneud hynny, nid yn unig trwy Flwyddyn yr Anfarwolion, ond yn barhaus. Ond byddwn hefyd yn annog Neil McEvoy i ddysgu oddi wrth Hannah Blythyn, sydd wedi cynrychioli ei hetholaeth yn wych drwy sicrhau bod y castell yn y Fflint, un o elfennau pwysicaf yr amgylchedd hanesyddol yn y gogledd-ddwyrain, wedi ei droi yn aur i gydnabod llwyddiant ysgubol Jade Jones. Rwy'n credu eibfod yn hanfodol bod y Llywodraeth, bod y gymdeithas yn gyffredinol, yn cofleidio llwyddiant ein harwyr chwaraeon, nid dim ond fel ffactor ysgogol i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ond hefyd fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd—i uno pobl yn ystod cyfnod pan fyddwn yn aml yn gecrus.