Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Medi 2016.
Mae nifer o flynyddoedd wedi bod bellach ers i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynhyrchu datganiad yn nodi bod teithiau ysgol o fudd amlwg i ddisgyblion, ond mae’n bosibl y bydd camddealltwriaethau’n annog ysgolion ac athrawon i beidio â threfnu teithiau o’r fath, ac maent yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw pryderon iechyd a diogelwch cyfeiliornus a di-sail yn creu rhwystrau sy’n atal y teithiau hyn rhag digwydd. Pa ymgysylltiad a gawsoch, neu y gallech ei gael, gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i sicrhau bod y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol ac ysgolion yn eu galluogi i ganolbwyntio ar sut i reoli’r gwir beryglon, yn hytrach nag ar y gwaith papur a allai fod ynghlwm wrth hynny?