Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Mark. Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau blaenorol, mae canllawiau Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn adnodd ar y we sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson i nodi newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac arferion da gan weithgor o arbenigwyr yn y maes. Mae gan y wefan ddolenni at gyngor perthnasol arall, gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae llawer i’w ennill o ganiatáu i fyfyrwyr, pobl ifanc a phlant gymryd rhan mewn ymweliadau, teithiau, gweithgareddau awyr agored, ac os yw ysgolion yn dilyn y cyngor sydd ar gael iddynt, byddant yn gwneud hynny gan wybod mai dyna yw’r cyngor diweddaraf a’r arferion gorau.