Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch i chi, Darren, am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais cyn toriad yr haf, mae swyddogion a minnau yn astudio’r dystiolaeth ynglŷn â’r ffordd orau o weithredu polisi o’r fath, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod potensial gan ddosbarthiadau llai o faint i wneud y gwahaniaeth mwyaf i blant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, i blant nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, a lle gwyddom y bydd hynny’n caniatáu newid mewn arddulliau addysgu. Gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru.