Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Medi 2016.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â’r consensws barn eang ymhlith llawer o academyddion nad dyma’r ffordd orau i fuddsoddi arian er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer disgyblion iau, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o’r ffaith fod gennym heriau recriwtio sylweddol ledled Cymru bellach o ran staff addysgu. A wnewch chi ystyried edrych unwaith eto ar wneud hyn yn flaenoriaeth, fel y gallwn edrych ar gost cyfle buddsoddi’r adnoddau a allai fod ar gael? Ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddech yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio tua £42 miliwn i’w gyflawni. Oni fyddai’n well gwario’r arian ar flaenoriaethau eraill, megis gwella ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i’n disgyblion iau?