<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 28 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 28 Medi 2016

Rŷch chi wedi dweud ddwywaith nawr i’r ddau gwestiwn eich bod yn cydnabod bod yna broblemau. Rŷch chi wedi sôn am rai pethau sydd wedi cychwyn, ac rŷch chi’n sôn am gael deialog yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod athrawon a phenaethiaid yn wynebu’r heriau a’r pwysau yma nawr. Nid wyf yn gwybod os ydych chi’n ymwybodol, ond mewn un awdurdod addysg yng Nghymru, dim ond ers dechrau’r flwyddyn, mae yna dri phennaeth wedi dioddef strôc oherwydd y pwysau gwaith. Nid yw hynny’n dderbyniol. Fydd hi ddim yn llawer o gysur i nifer yn y rheng flaen bod yna ‘rhywbeth yn mynd i ddigwydd rhywbryd’. A allwch chi ddweud wrthym yn fwy penodol erbyn pryd y bydd y bobl ar y ffas lo yn gweld gwahaniaeth?