Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 28 Medi 2016.
Bydd y coleg arweinyddiaeth, fel y dywedais wrthych cyn toriad yr haf, yn cael ei sefydlu yn ystod y flwyddyn hon ac yn derbyn ac yn darparu cyrsiau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
O ran rheolwyr ysgol a gwahanol ffurfiau ar lywodraethu ysgolion ac arweinyddiaeth, rwy’n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiadau hynny yn unol â’r adnoddau a ddyrennir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn nes ymlaen y tymor hwn. Rydym yn symud mor gyflym â phosibl i edrych ar ffyrdd y gallwn newid cymwysterau i benaethiaid. Rwyf yn llythrennol ond wedi bod yn y swydd hon ers hanner ffordd drwy fis Mai ac rydym yn bwrw ymlaen â phopeth mor gyflym ag y gallwn. Wrth gychwyn yn y swydd, sylwais fod diffyg cefnogaeth i arweinwyr ysgol. Mae’n un rhan o’r materion y nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â hwy, ac rwy’n bwrw ymlaen â hwy fel mater o flaenoriaeth.