Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 28 Medi 2016.
Mae Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid refferenda pan fyddant yn gweddu i’w dibenion gwleidyddol, sef ar ddatganoli pellach a diwygio pleidleisio. Felly, gadewch i mi ddefnyddio’r cyfle hwn i ofyn i Ysgrifennydd Addysg y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth Lafur roi cyfle i bobl leol sefydlu ysgolion gramadeg newydd, lle mae digon o alw lleol wedi’i ddangos drwy gyfrwng refferendwm dan reolaeth yr awdurdod lleol. A wnaiff hi ymuno ag UKIP a rhoi mwy o ddewis i bobl leol dros addysg eu plant?