Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 28 Medi 2016.
Lywydd, roeddwn yn credu fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y ddadl yr wythnos diwethaf am fy safbwyntiau ar ysgolion gramadeg. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod ysgolion gramadeg yn gwasanaethu eu myfyrwyr yn well nag ysgolion cyfun traddodiadol. Gwyddom eu bod yn newyddion drwg i’r disgyblion tlotaf a gwyddom hefyd fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er bod ganddo nifer o bethau anodd i’w dweud am addysg yng Nghymru, wedi canmol ein system gyfun. Maent yn dweud mai dyna’r ffordd orau i wneud gwelliannau i’r system addysg yng Nghymru, ac rwy’n bwriadu dilyn y cyngor hwnnw.