Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Medi 2016.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, mi wnaethoch chi ddweud, fel yr ydych chi wedi dweud heddiw, na fyddai Cymraeg ail iaith yn cael ei dysgu fel rhan o’r cwricwlwm newydd erbyn 2021, ac, yn ei lle, byddai yna un continwwm o ddysgu’r iaith i bob disgybl. Ond nid ydw i’n dal i fod yn glir ynglŷn â’r newidiadau i’r cymwysterau. A allech chi gadarnhau’r hyn a gafodd ei adrodd yn y wasg wedi’r cyfweliad ar ‘Newyddion 9’, sef y byddwch chi yn disodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg ac mai hwnnw fydd pob disgybl yn ei ddefnyddio erbyn 2021?