Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Medi 2016.
Rydw i’n gwybod bod lot fawr o bobl wedi gresynu wrth y geiriau yr oeddwn i wedi’u defnyddio. Roeddwn i’n synnu at hynny hefyd, achos nid oeddwn i’n newid polisi; roeddwn i’n ailadrodd polisi presennol. Rydym ni ar hyn o bryd mewn cyfnod pontio o ble yr oeddem ni pan oedd yr Athro Sioned Davies wedi cyhoeddi ei hadroddiad hyd at gyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2021. Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi’i awgrymu yn 2021, ac mi fyddwn ni’n edrych ar sut yr ydym yn mynd i ddatblygu ‘qualifications’ gwahanol ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau o 2021.