Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 28 Medi 2016.
Hoffwn ddiolch i Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton a Llyr Gruffydd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwy’n cytuno bod angen i ni fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd. Nid wyf yn cytuno mai difa moch daear yw’r dull mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â TB buchol. Mewn gwirionedd, mae’r holl dystiolaeth wyddonol yn dangos mai o fuwch i fuwch y caiff y clefyd ei drosglwyddo’n bennaf, ac ni fydd lladd moch daear yn cael gwared ar drosglwyddo o fuches i fuches.
Cynhaliwyd treial difa moch daear annibynnol a chadarn yn wyddonol, a bu’n weithredol am bron i ddegawd gan gostio oddeutu £50 miliwn o bunnoedd, a bywydau 11,000 o foch daear. Yn dilyn y treial, daeth y grŵp gwyddonol annibynnol i’r casgliad nad yw difa moch daear yn gallu gwneud unrhyw gyfraniad ystyrlon i reoli TB gwartheg ym Mhrydain.
Yn wir, oni bai ein bod yn dileu moch daear o Brydain yn llwyr mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall difa arwain at gynnydd yng nghyfraddau haint TB mewn gwirionedd. Mae hyn am fod natur diriogaethol moch daear yn atal moch daear rhydd sy’n dioddef o’r clefyd rhag crwydro ar hyd a lled y wlad. A yw’r rhai sy’n argymell rhaglen ddifa o ddifrif eisiau hela moch daear i ddifodiant? A oes rhaid i ni ddinistrio un o rywogaethau mwyaf eiconig Prydain, a ddiogelir gan eu Deddf Seneddol eu hunain, am ei bod yn rhatach eu lladd yn hytrach na’u brechu hwy yn ogystal â’r gwartheg?
I’r rhai sydd o blaid difa, a wnewch chi egluro sut y byddech yn lladd moch daear yn ddi-boen? Yn ystod treialon difa 2013, roedd tua chwarter y moch daear yn dal yn fyw bum munud ar ôl cael eu saethu. Arweiniodd hyn at alwad Cymdeithas Milfeddygon Prydain i roi’r gorau i saethu a reolir fel dull difa. Nid yn unig y mae difa yn greulon; mae hefyd yn aneffeithiol. Ceir tri pharth difa gweithredol yn Lloegr, ac mae pob un o’r tri wedi gweld cynnydd mewn TB buchol. Nid oes TB yn yr Alban, ac eto mae ganddynt boblogaeth fwy o faint o foch daear. Yma yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad mewn TB buchol heb ladd moch daear, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, maent wedi bod yn lladd moch daear ers 30 mlynedd heb gael unrhyw effaith amlwg ar TB. Maent yn awr yn awyddus i ymestyn y difa i gynnwys ceirw.
I gloi, y mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd yw cynyddu bioddiogelwch a brechu, ac nid dileu holl boblogaeth y DU o foch daear. Diolch yn fawr.